Select Page

70A – 80A Stryd Charles, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 2HE

Cyflwyniad

Mae DPP yn paratoi i gyflwyno cais cynllunio llawn ar ran Cyngor Sir Benfro ar gyfer adeiladu ailddatblygiad preswyl newydd i gynnwys 24 o fflatiau fforddiadwy i bobl dros 55-oed yn 70A-80A Heol Charles, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 2HE.

Mae cynnal ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion lleol cyn cyflwyno cais cynllunio yn rhan bwysig o’r broses ac yn galluogi rhanddeiliaid allweddol a’r gymuned leol i ymgysylltu i weld a gwneud sylwadau ar y cais.

Y Safle

Mae’r safle wedi’i leoli ar Heol Charles yn Aberdaugleddau ac mae’n ymestyn i oddeutu 900m2. Mae’r safle ar dir wedi ei ddatblygu o’r blaen a chafodd ei glirio yn 2018 i alluogi ailddatblygiad. Ar hyn o bryd, mae’r safle wedi’i ddiogelu gyda hysbysfyrddau. Gwelir leoliad y safle, wedi’i amlinellu mewn coch, i’r chwith.

Y Cynlluniau

Mae’r datblygiad arfaethedig ar gyfer adeiladu 24 o fflatiau preswyl fforddiadwy i bobl dros 55-oed. Gwneir y rhain i fyny o 21 o fflatiau 1-gwely a 3 o fflatiau 2-wely, yngyd â lolfa gymunedol ar bob llawr.

Bydd yr adeilad yn cael ei ddarllen fel un pedwar llawr o Heol Charles i’r gogledd ac un pum llawr o Stryd Barlow i’r de oherwydd y newid yn y topograffi o’r gogledd i’r de. Mae’r adeilad arfaethedig yn cynnwys sylfaen o frics tywyll, cladin lliw llwyd golau yn y canol a chladin alwminiwm llwyd tywyll ar lefel y to.

Mi fydd y brif fynedfa i’r adeilad ar Heol Charles, ar y llawr gwaelod. Bydd cyfanswm o 10 man parcio ar lefel is y llawr gwaelod a bydd mynediad iddynt o Stryd Barlow i’r de. Bydd mannau parcio beiciau a sgwteri hefyd ar gael ar y llawr gwaelod is.

Cynigir tirlunio meddal ar ffurf planwyr ar hyd Heol Charles o flaen y datblygiad, i ddarparu ffin amddiffynadwy o flaen y ffenestri preswyl ar y llawr gwaelod. Cynigir coed newydd ar ochr ddeheuol yr adeilad i ddarparu amgylchedd fwy deiniadol. 

Fel cyd-destyn, mae caniatâd cynllunio eisioes yn bodoli ar y safle ar gyfer datblygu 15 o fflatiau fforddiadwy i bobl dros 55-oed yn 2020. Mae’r Cyngor bellach wedi rhoi cyfarwyddyd i W.B Griffiths, cwmni adeiladu o Sir Benfro, i ddatblygu’r safle yn amodol a’r nifer o newidiadau. Y newid amlwg yw’r cynnydd yn y nifer o fflatiau ar y safle i 24, i wneud y defnydd gorau o’r safle er mwyn cynyddu argaeledd tai fforddiadwy i bobl dros 55-oed. 

Darparu eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ynglyn a’r datblygiad arfaethedig cyn cyflwyno’r cais cynllunio. Gellir cyflwyno unrhyw adborth drwy ddefnyddio’r ffurflen adborth isod, drwy yrru e-bost i consultation@dppukltd.com, neu fel arall, drwy bostio unrhyw adborth i DPP, DESG, 11-13 Ffordd Penhill, Caerdydd, CF11 9PQ.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw Dydd Gwener, 26ain o Orffennaf, 2024.

Ffurflen Adborth

Byddwch yn ymwybodol bod sylwadau a adewir ar unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus, naill ai drwy e-bost neu unrhyw ddull arall, yn amodol ar delerau ein Polisi Preifatrwydd. Darllenwch y polisi hwn yn ofalus oherwydd trwy gyflwyno’r wybodaeth rydych yn caniatáu i ni ddefnyddio’ch data personol yn unol â’r Polisi Preifatrwydd. 

Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar ein cronfa ddata diogel ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo i’r cleientiaid. 

Efallai yr hoffem gysylltu â chi hefyd i rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau yn y dyfodol ynglyn a’r ymgynghoriad yma. Byddwch yn gallu optio allan o’r cyfathrebiadau yma ar unrhyw bryd.

Lawrlwythiadau

Cynllun Lleoliad 
Lawrlwytho Nawr >

Cynllun is-lawr gwaelod
Lawrlwytho Nawr >

Cynllun Llawr Gwaelod
Lawrlwytho Nawr >

Cynllun Llawr Cyntaf ac Ail
Lawrlwytho Nawr >

Cynllun Trydydd Llawr a To
Lawrlwytho Nawr >

Drychiadau Gogleddol a Deheuol 

Lawrlwytho Nawr >

Drychiadau Dwyrain a Gorllewin

Lawrlwytho Nawr >

Adrannau Arfaethedig 
Lawrlwytho Nawr >

Datganiad Dylunio a Mynediad 
Lawrlwytho Nawr >

Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol  
Lawrlwytho Nawr >

Golwg 3D 1
Lawrlwytho Nawr >

Golwg 3D 2
Lawrlwytho Nawr >

Gosodiad y Fflatiau
Lawrlwytho Nawr >

Strategaeth Tan Is-lawr gwaelod
Lawrlwytho Nawr >

Strategaeth Tan Llawr Cyntaf ag Ail
Lawrlwytho Nawr >

Strategaeth Tan Llawr gwaelod
Lawrlwytho Nawr >

Strategaeth Tan Trydydd Llawr
Lawrlwytho Nawr >

Amserlen Llety
Lawrlwytho Nawr >

Amserlen y Fflatiau
Lawrlwytho Nawr >